Annie JonesDAVIESGyda thristwch dymunwn ni deulu Annie Jones Davies Nant Hir, Cwmtirmynach gynt gydnabod eich holl eiriau caredig, a'ch atgofion melys am un oedd mor anhepgor yn ein bywydau. Diolch am y llythyrau a'r cardiau, pob neges destun ac e bost, y blodau a'r rhoddion hael. Cyflwynwyd swm o £2,000 i Ganolfan Iechyd Y Bala a Phenllyn - Cronfa offer Meddygol er côf tyner am Mam.
Gwerthfawrogwyd wasanaeth teilwng y Parchedigion Huw Dylan Jones, Carwyn Siddall ac Euron Hughes yng Nghapel Tegid, Y Bala a mynwent Eglwys Crist Y Bala , hefyd Mr Peredur Roberts yr ymgymerwr.
Diolch gyfeillion o bell ac agos.
Cadair wag sydd ar yr aelwyd, Llais a garem sydd yn fud, Gweld ei heisiau ydym beunydd, Colli wnaethom drysor drud.
Keep me informed of updates